Gwasanaethau Digidol » Gwasanaethau Dysgu Digidol a Llyfrgel » Cefnogaeth ar Gyfer Staff » Archebu Adnoddau ar gyfer y Llyfrgell
Rhowch 3 – 4 wythnos er pan wnaethoch gyflwyno eich archeb cyn i’r adnoddau gael eu rhoi ar silffoedd y Llyfrgell. Mae hyn hefyd yn rhoi amser i ni ychwanegu eich archeb at y catalog a phrosesu’r adnoddau yn barod i’w benthyca. Mae’r Llyfrgell yn defnyddio cyflenwyr cyflenwadau sylweddol arbenigol sy’n rhoi gostyngiad penodol i ni ac yn darparu gwasanaethau prosesu ar gyfer y llyfrgell yn ogystal, er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu rhoi eich adnoddau ar y silffoedd cyn gynted ag sy’n bosibl.
Gall archebion am adnoddau arbenigol, megis arteffactau addysgu neu lyfrau sydd allan o brint, ac archebion a wneir yn ystod y cyfnodau brig (misoedd Awst – Medi a misoedd Mai – Gorffennaf) gymryd yn hirach i’w prosesu. Os oes angen eu harcheb arnoch ar frys, cysylltwch â’r llyfrgell, a gwnawn ein gorau glas i’w blaenoriaethu.
Gallwch archebu drwy ddefnyddio’r ffurflen archebu ar-lein ar wefan y llyfrgell,
Os ydych wedi lanlwytho eich rhestr ddarllen i’n llwyfan Rhestrau Adnoddau Ar-lein, bydd ceisiadau prynu yn cael eu creu’n awtomatig os nad yw’r eitem mewn stoc. Nid oes angen archebu unrhyw lyfrau a ychwanegir at Restrau Adnoddau Ar-lein ar wahân, a byddwn ni’n cysylltu â chi os na allwn ni eu darparu.
Gallwch ofyn am e-lyfrau, llyfrau print, cyfnodolion ac e-adnoddau ar gyfer stoc y llyfrgell. Sylwer nad yw’r llyfrgell bellach yn archebu casetiau fideo neu DVDs fel arfer, a’i nod yw cefnogi darpariaeth fideo drwy wasanaethau ffrydio ar-lein pan fo’r rhain ar gael.
Caiff yr holl ddeunydd a archebir ei gadw yn ein llyfrgelloedd; ni allwn ni brynu llyfrau i’w cadw gan adran, na chopïau personol.
Defnyddir ein Polisi Rhestr Adnoddau Ar-lein a'n canllawiau Polisi Datblygu Casgliadau i sicrhau bod nifer deg a phriodol o gopïau print yn cael eu cadw i ateb y galw gan aros o fewn cyfyngiadau cyllidebol. Os gwelir bod galw mawr am lyfrau, e.e., pan fydd llawer o archebion gan fyfyrwyr, archebir copïau ychwanegol yn awtomatig pan fo'n bosibl. Sylwer nad yw bob amser yn bosibl i ni brynu copïau lluosog; er enghraifft, pan fydd llyfr allan o brint, neu'n ddrud iawn.