Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Cefnogaeth ar Gyfer Staff » Archebu Adnoddau ar gyfer y Llyfrgell
Y mae croeso i staff academaidd archebu llyfrau ac e-lyfrau ar gyfer stoc y Llyfrgell.
Rhowch 3 – 4 wythnos er pan wnaethoch gyflwyno eich archeb cyn i’r adnoddau gael eu rhoi ar silffoedd y Llyfrgell. Mae hyn hefyd yn rhoi amser i ni ychwanegu eich archeb at y catalog a phrosesu’r adnoddau yn barod i’w benthyca. Mae’r Llyfrgell yn defnyddio cyflenwyr cyflenwadau sylweddol arbenigol sy’n rhoi gostyngiad penodol i ni ac yn darparu gwasanaethau prosesu ar gyfer y llyfrgell yn ogystal, er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu rhoi eich adnoddau ar y silffoedd cyn gynted ag sy’n bosibl.
Gall archebion am adnoddau arbenigol, megis arteffactau addysgu neu lyfrau sydd allan o brint, ac archebion a wneir yn ystod y cyfnodau brig (misoedd Awst – Medi a misoedd Mai – Gorffennaf) gymryd yn hirach i’w prosesu. Os oes angen eu harcheb arnoch ar frys, cysylltwch â’r llyfrgell, a gwnawn ein gorau glas i’w blaenoriaethu.
Rydyn ni wedi llunio’r canllaw canlynol ar gyfer staff y Brifysgol gydag atebion i rai cwestiynau cyffredin am archebu adnoddau ar gyfer stoc y llyfrgell. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau eraill nad ydynt wedi’u cynnwys yma, cysylltwch â ni.
Gallwch archebu drwy ddefnyddio’r ffurflen archebu ar-lein ar wefan y llyfrgell,
Os ydych wedi lanlwytho eich rhestr ddarllen i’n llwyfan Rhestrau Adnoddau Ar-lein, bydd ceisiadau prynu yn cael eu creu’n awtomatig os nad yw’r eitem mewn stoc. Nid oes angen archebu unrhyw lyfrau a ychwanegir at Restrau Adnoddau Ar-lein ar wahân, a byddwn ni’n cysylltu â chi os na allwn ni eu darparu.
Gallwch ofyn am e-lyfrau, llyfrau print, cyfnodolion ac e-adnoddau ar gyfer stoc y llyfrgell. Sylwer nad yw’r llyfrgell bellach yn archebu casetiau fideo neu DVDs fel arfer, a’i nod yw cefnogi darpariaeth fideo drwy wasanaethau ffrydio ar-lein pan fo’r rhain ar gael.
Caiff yr holl ddeunydd a archebir ei gadw yn ein llyfrgelloedd; ni allwn ni brynu llyfrau i’w cadw gan adran, na chopïau personol.
Byddwn yn ymdrechu i brynu popeth sydd ei angen, fodd bynnag, gall y pris neu gyfyngiadau ar gyflenwad effeithio ar y gwaith o brynu. Mae canllawiau manwl ar gael yn ein Polisi Datblygu Casgliadau a’n Polisi Rhestrau Adnoddau Ar-lein.
Yn gyffredinol, bydd teitl print yn cymryd hyd at fis i gyrraedd, ond gellir darparu e-lyfr ymhen ychydig ddyddiau ar ôl archebu.
Nac ydynt, nid yw’r holl deitlau print ar gael ar ffurf e-lyfrau ac o bryd i’w gilydd ni fydd e-lyfr, er ei fod ar gael ar ffurf electronig, ar gael i’w brynu gan ein cyflenwyr. Er enghraifft, dim ond i unigolyn y gellir trwyddedu e-lyfrau Amazon Kindle ac ni all y llyfrgell eu prynu i nifer o fyfyrwyr a staff eu defnyddio. Mae’r llyfrgell yn gweithio gyda nifer o gyflenwyr arbenigol yn y diwydiant sy’n darparu mynediad i lyfrau academaidd ar-lein gyda thrwyddedau ar draws y brifysgol.
Mae e-lyfrau ar gael i’w prynu gydag amrywiaeth o drwyddedau, ond mae hyn yn dibynnu ar y cyflenwr.
Polisi LlAD yw prynu’r drwydded leiaf cyfyngol o fewn terfynau’r gyllideb. Ceir canllawiau manwl yn ein Polisi Datblygu Casgliadau.
Oes ond bydd hyn yn dibynnu ar nifer y myfyrwyr sy’n astudio ar bob modwl ac a yw’r llyfr yn destun darllen hanfodol neu ddarllen pellach.
Defnyddir ein Polisi Rhestr Adnoddau Ar-lein a’n canllawiau Polisi Datblygu Casgliadau i sicrhau bod nifer teg a phriodol o gopïau print yn cael eu cadw i ddiwallu’r galw gan aros o fewn cyfyngiadau cyllideb. Os canfyddir bod galw mawr am lyfrau, e.e., gyda sawl archeb gan fyfyrwyr, archebir copïau ychwanegol yn awtomatig lle bo modd. Sylwch nad yw bob amser yn bosibl i ni brynu sawl copi; er enghraifft, pan fydd llyfr allan o brint, neu’n ddrud iawn.
Defnyddir ein Polisi Rhestr Adnoddau Ar-lein a’n canllawiau Polisi Datblygu Casgliadau i sicrhau bod nifer deg a phriodol o gopïau print yn cael eu cadw i ateb y galw gan aros o fewn cyfyngiadau cyllidebol. Os gwelir bod galw mawr am lyfrau, e.e., pan fydd llawer o archebion gan fyfyrwyr, archebir copïau ychwanegol yn awtomatig pan fo’n bosibl. Sylwer nad yw bob amser yn bosibl i ni brynu copïau lluosog; er enghraifft, pan fydd llyfr allan o brint, neu’n ddrud iawn.
Byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddod o hyd i’r llyfrau sydd eu hangen, ond weithiau ni fydd hyn yn bosibl. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os felly y mae hi ac yn awgrymu eich bod yn cysylltu â’ch Llyfrgellydd Cyswllt Academaidd neu’r Llyfrgellydd Caffael a Thanysgrifiadau a all gysylltu â chyflenwyr arbenigol llyfrgell a helpu i awgrymu dewisiadau eraill.
Pan fo’n bosibl, byddwn yn archebu llyfrau ar ffurf e-lyfr i fyfyrwyr eu darllen ar-lein. Os nad oes e-lyfr ar gael, byddwn yn ymdrechu i archebu copïau print, a gallwn ddigideiddio rhywfaint o destun o’r rhan fwyaf o lyfrau print o dan y Drwydded CLA sydd i’w cadw ar ADRh y Brifysgol. Os nad yw’r trefniant hwn yn diwallu eich anghenion, cysylltwch â’ch Llyfrgellydd Cyswllt Academaidd neu’r Llyfrgellydd Caffael a Thanysgrifiadau a all helpu i argymell teitlau amgen yn yr un maes pwnc.
Llenwch y ffurflen gais ar-lein fel y byddech wrth wneud cais am unrhyw adnodd arall. Unwaith y bydd eich cais wedi dod i law, byddwn yn ymchwilio i’r costau tanysgrifio a’r trwyddedu i weld a ellir cyflawni’r cais. Wedyn bydd yr Uwch Gynorthwyydd Llyfrgell mewn cysylltiad i awgrymu canslo tanysgrifiad i swm tebyg nad yw’n cael ei ddefnyddio’n dda o’ch maes pwnc. Bydd y broses hon yn digwydd unwaith y flwyddyn i gyd-fynd â chyfnodau tanysgrifio, ac felly nid yw’n bosibl archebu cyfnodolion ar fyr rybudd.
Nac ydyn – dim ond mewn print y mae rhai teitlau ar gael, yn enwedig cyfnodolion crefft a chylchgronau. Nid yw rhai teitlau ar-lein yn gydnaws â’n systemau llyfrgell na system mewngofnodi TG y Brifysgol, ac nid yw rhai tanysgrifiadau ar-lein yn cynnig trwyddedau ar-lein sy’n gweithio o blaid mynediad lluosog i ddefnyddwyr ar draws y Brifysgol gyfan. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â’r Llyfrgellydd Caffael a Thanysgrifiadau a fydd yn ymchwilio i hyn i chi.
Caiff eitemau eu hadnewyddu ar ddechrau’r flwyddyn academaidd a dyma pryd y cymerir tanysgrifiadau newydd, felly mae’n well cynllunio ymlaen llaw gan ystyried y drefn hon. Mae’r drwydded ar gyfer tanysgrifiad cyfnodolion fel arfer yn rhedeg rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr.
Nod Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yw cytuno ar danysgrifiadau cyfnodolion blynyddol gyda’n hasiant tanysgrifio yn ystod y mis Medi blaenorol.
Cysylltwch â’n Llyfrgellydd Caffael a Thanysgrifiadau i ddechrau gyda’ch awgrym. Fel arfer yn trefnu treial yn y lle cyntaf i wirio bod yr adnodd yn gydnaws â’n system llyfrgell. Gan fod y treial yn cael ei gynnal byddem yn edrych ar gyfyngiadau prisio a thrwyddedu – byddem wedyn yn cymryd y wybodaeth hon ynghyd ag adborth o’r treial i banel adnoddau a gynhelir yn rheolaidd pan wneir penderfyniad prynu.
Er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflwyno Rhestrau Adnoddau Ar-lein a sicrhau bod y casgliad yn cael ei ddiweddaru mewn ffordd systematig, mae Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu wedi symud o strwythur cyllideb sy’n benodol i’r Athrofa i strwythur sy’n seiliedig ar wasanaethau. Mae hyn yn darparu cyllideb benodol i gefnogi ceisiadau am ddeunydd newydd a gyflwynir i Restrau Adnoddau Ar-lein, y gwasanaeth Angen Mwy , ac ymrwymiadau tanysgrifio parhaus, wrth ganiatáu’r hyblygrwydd i fodloni gofynion yr Athrofa yn well am adnoddau llyfrgell a all amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Y ffordd orau o sicrhau bod y gyllideb ar gael ar gyfer yr adnoddau sydd eu hangen arnoch yw diweddaru’r Rhestrau Adnoddau Ar-lein ar gyfer eich rhaglenni yn rheolaidd.
Cyflwynwch eich archebion am adnoddau newydd yn ôl yr angen a byddwn yn gwneud y gorau y gallwn i’w darparu ar eu cyfer. Os ydych chi’n debygol o fod angen nifer arbennig o arwyddocaol o adnoddau newydd sy’n uwch na’ch gofynion arferol, er enghraifft i gefnogi rhaglen newydd, cysylltwch â’r Pennaeth Casgliadau neu Lyfrgellwyr Caffael a Thanysgrifiadau ymlaen llaw i drafod eich anghenion.
Mae ein blwyddyn gyllidebol yn rhedeg rhwng 1 Awst a 31 Gorffennaf. Gall yr union amseriad amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ond fel rheol gyffredinol rydym yn argymell bod pob archeb ar gyfer y flwyddyn gyfredol yn cael ei chyflwyno erbyn 28 Ebrill sy’n caniatáu amser i adnoddau gael eu cyflenwi a phrosesu anfonebau.
Nac oes. Mae’r holl adnoddau llyfrgell yn cael eu harchebu’n ganolog o gyllideb y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu. Nid oes angen cynnwys cod costau ac ni chymerir unrhyw arian o’ch Athrofa na’ch cyllideb Adrannol.
Suzy Fisher
Llyfrgellydd Caffael a Thanysgrifio
E-bost: s.fisher@uwtsd.ac.uk